
P’un a ydych chi eisiau gwella eich sgiliau rhifedd i gael cyfleoedd gwaith, i helpu’ch plant gyda’u gwaith cartref neu i ddysgu sgiliau newydd, bydd gan Lluosi gwrs i chi!
Gall unrhyw un 19 oed a hŷn sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili fanteisio ar gyrsiau Lluosi am ddim.
Rhifedd yw’r gallu i ddeall a defnyddio mathemateg yn ystod bywyd pob dydd, gartref ac yn y gwaith. Mae’n edrych yn wahanol i bawb ac mae hynny’n iawn. Mae Lluosi wedi ymrwymo i addasu i’ch bywyd chi, dyna pam rydyn ni’n cynnig cyrsiau hyblyg am ddim.
Gallai gwella eich rhifedd eich helpu chi i gyflawni nifer o nodau, gan gynnwys deall ryseitiau gartref, rheoli eich cyllid, cyllidebu neu rannu bil gyda ffrindiau pan fyddwch chi allan am bryd o fwyd.

Rydyn ni am i chi deimlo’n dda am ddefnyddio mathemateg a rhifau’n effeithiol yn ystod bywyd pob dydd, gartref ac yn y gwaith. Gadewch i Lluosi roi hwb i’ch hyder a’ch gallu – ydy hynny’n swnio’n dda i chi?
Mae mathemateg pob dydd yn haws gyda Lluosi. I gael rhagor o wybodaeth neu i ddod o hyd i gwrs yn agos atoch chi, chwiliwch am ‘Addysg Oedolion Caerffili‘ i ddechrau ar eich taith. I siarad ag aelod o’r Tîm Lluosi am y cyfleoedd sydd ar gael, e-bostiwch lluosi@caerffili.gov.uk neu ffonio 07394 097429.
Lluosi eich gwybodaeth, lluosi eich sgiliau a lluosi eich potensial!
